Mae gweithdai arobryn y Tŷ Weindio yn gwneud addysg treftadaeth yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn hwyl!
Mae ein Rhaglen Dysgu Allgymorth yn dod â phrofiad hanes i’ch ysgol. Cyflwynir ein hamrywiaeth eang o weithdai hanesyddol gan ein Swyddog Dysgu (SAC) yn eich man dysgu. Mae ein sesiynau ymarferol sy’n seiliedig ar y cwricwlwm wedi’u cynllunio i gefnogi Cwricwlwm Drafft Cymru 2022 a dysgu trawsgwricwlaidd, a byddant yn dod â’ch pwnc hanesyddol yn fyw.
Oni nodir yn wahanol, mae ein holl weithdai yn addas ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen – Cyfnod Allweddol 2 ac maent yn cael eu teilwra yn unol â gofynion grŵp oedran a gofynion penodol.