01443 822666

Oriel y Dwyrain

Mae Oriel y Dwyrain yn cynnwys rhaglen newidiol o arddangosfeydd diddorol bob blwyddyn. Mae’r arddangosfeydd hyn yn cynnwys rhai gan artistiaid a chrefftwyr o Gymru, prosiectau addysg a chymunedol lleol ac arddangosfeydd o gasgliad yr amgueddfa. Rydych yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy’n apelio atoch yn ein rhaglen arddangosfeydd.

 

Dydd Sadwrn 11 Chwefror 2023

Natalie Kyte

Rwy’n artist 19 oed o dde Cymru, a’r arddangosfa yn y Tŷ Weindio fydd fy arddangosfa gyntaf, felly rwy’n llawn cyffro ynghylch cymryd rhan yn y profiad hwn.

Er fy mod i’n mwynhau gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau gyda fy ngwaith celf, rwy’n bennaf yn creu fy hoff ddarnau gan ddefnyddio pensiliau lliw neu bensiliau graffit, gan gyfuno ychydig o baent dyfrlliw fan hyn fan draw. Rydw i hefyd wrth fy modd yn gweithio gydag amrywiaeth o destunau (yn enwedig y rhai sy’n rhoi her i mi). Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith yn ymwneud ag anifeiliaid a bywyd gwyllt.

 

Dydd Sadwrn 1 Ebrill 2023

Marie Davison yn cyflwyno… Y Byd o’m Cwmpas

Dechreuais i baentio pan wnes i ymddeol. Rwy’n hunanddysgedig ac yn treulio oriau lawer yn braslunio ac yna’n defnyddio’r rheiny ar gyfer fy mhaentiadau dyfrlliw ac acrylig ar gynfasau.

Rydw i wedi arddangos yn ein grŵp bach cymunedol lleol rwy’n ei fynychu bron bob bore Gwener ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i werthu rhywfaint o fy ngwaith.

Rydw i hefyd wedi cael ychydig o gomisiynau ac wedi mwynhau eu cwblhau.

Rwy’n gweld arddangos ar fy mhen fy hun yn brofiad brawychus gan fy mod i ymhell i mewn i’r sector henoed, ond mae’n gyffrous iawn ar yr un pryd i gael y cyfle anhygoel hwn.

Mae fy ngŵr yn gwneud cardiau hyfryd i mi gyda fy mhaentiadau ac mae’n gefnogaeth wych.

 

Dydd Sadwrn 6 Mai 2023

Neil Carroll yn cyflwyno… Homelands

“Mae paentiadau Neil Carroll yn ddathliadau bywiog o fro ei febyd a lleoedd sy’n gyfarwydd iddo. Fel llawer o’r paentiadau tirlun gorau, mae datgan cariad yn gymaint o ran o’i luniau ag y mae cipio golygfa.”    Dr. Peter Wakelin

Ers tyfu lan ym mhen uchaf Cwm Rhymni, rydw i bob amser wedi cael fy ysbrydoli gan holl harddwch naturiol y lle, lle rwy’n ei garu.

Fe wnaeth fy nhad-cu dynnu fy sylw at Eglwys Sant Sannan pan oeddwn i’n blentyn a bydden ni’n edrych o’i ffenest i weld ei thŵr gwyngalchog yn dal golau haul yr hwyr wyth milltir i lawr y cwm. Yno roedd yr eglwys, ar ochr bryn yn edrych dros lofa Britannia, lle byddai’n cerdded i’w waith fel glöwr.

Yn ddiweddarach yn fy mywyd, fe es i i’r ysgol ym Medwellte, a oedd yn agos i’r eglwys a’r lofa ac fe ymwelais i â’r ddau le bryd hynny i dynnu llun a myfyrio ar arwyddocâd y ddau ohonyn nhw.

Y dyddiau hyn, mae’n gyfeirbwynt unwaith eto ac rydw i wedi dychwelyd yno drwy fy ngwaith presennol. Rwy’n edrych tuag at Eglwys Bedwellte o’r Drenewydd ac, fel arall, yn edrych i’r Drenewydd o Eglwys Bedwellte, gan gynnwys popeth sydd rhyngddyn nhw, darn o’r famwlad i gerdded a’i amsugno ym mhob tymor a phob amser o’r dydd ac i ddatgan cariad at ein rhan ni o’r cwm fel fy nhestun i’w arlunio a phaentio.

Mae paentio yn antur go iawn i mi, a phan fydda i’n paentio, rwy’n mynd ati i greu ymateb i’r profiadau hyn wrth drin y paent, fy nheimladau am y cwm, y newid mewn safbwyntiau, hwyliau, tymhorau a rhinweddau golau.

Rydw i am gyfleu fy emosiynau mewn paent, i siarad mewn paent ac i adael i’r paent ei hun siarad. Rwy’n gobeithio pan fyddwch chi’n dod i weld fy ngwaith yn y Tŷ Weindio ym mis Mai 2023, y bydd fy mhrofiadau a fy nheimladau yn cael eu rhannu.

Cafodd Neil Carroll ei eni ym 1958 yn Rhymni, Sir Fynwy. Hyfforddodd yn Ysgol Gelf Casnewydd a Phrifysgol Cymru, Caerdydd.

Bu’n addysgu Addysg Gelf rhwng 1985 a 2015 ac fe anogodd lawer o fyfyrwyr i fwynhau eu creadigrwydd ac i fynd ymlaen i weithio yn y diwydiannau creadigol.

Roedd Neil yn destun ar raglen ‘First Hand’ ar y BBC yn 2001, ac fe gafodd arddangosfa unigol fawr ‘The Spirit Fired’ ei chynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn 2004.

Mae Neil Carroll wedi’i gynnwys yn ‘Dictionary of British Artists since 1945’ gan David Buckman a hefyd yn ‘Post-war to Post-modern, A Dictionary of Artists in Wales’ gan Peter W. Jones ac Isabel Hitchman.

Roedd ei arddangosfa deithiol ‘Here Comes the Sun’ yn cynrychioli Cymru yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant, Llydaw, yn 2010.

Mae Neil wedi arddangos ynghyd â’i wraig, y gwneuthurwr printiau Yvonne Carroll. Mae eu harddangosfeydd wedi cynnwys ‘Kindred Spirit’ yn Oriel Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn 2015 a ‘Trouvaille’ yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn 2019.

Mae Carroll wedi curadu arddangosfa ‘Forty Years On’ a fydd yn cael ei dangos yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ar ôl cwblhau’r gwaith adnewyddu yno ac mae wrthi’n paratoi arddangosfeydd unigol o baentiadau newydd i’w cynnal yn y Tŷ Weindio ym mis Mai 2023 ac yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod ym mis Ebrill 2024.

 

Dydd Sadwrn 3 Mehefin 2023

Clwb Camera Maes-y-cwmwr yn cyflwyno… Glowyr, cloddio am lo, a glofeydd

Bob blwyddyn mae ein clwb ni’n dangos peth o’r gwaith mae’r aelodau wedi’i gynhyrchu.

Rydyn ni’n gobeithio byddwch chi’n mwynhau ein hymdrech eleni i ddangos sut mae diwydiant glo Cymru yn parhau i lywio’r genedl a’i chymunedau. Mae’n arddangosfa sydd wedi’i hysbrydoli gan ein cadeirydd sefydlu, Haydn Jenkins, a fu farw cyn iddo weld ei syniad yn cael ei wireddu.

Cafodd Clwb Camera Maes-y-cwmwr ei ffurfio ym mis Ebrill 2019.

Heddiw mae gennym ni tua 20 o aelodau o gefndiroedd amrywiol, gyda phrofiad a sgiliau sy’n amrywio o sylfaenol iawn i bron yn broffesiynol.

Mae’n glwb cyfeillgar lle mae’r aelodau’n helpu ei gilydd i fwynhau ffotograffiaeth a dysgu gan ei gilydd. Mae’n croesawu dechreuwyr i’r grefft ffotograffiaeth.

Mae ein cyfarfodydd wythnosol yn ddigwyddiadau hamddenol lle gall siaradwyr gwadd ddangos eu gwaith a’u technegau, neu le gall modelau sefyll er mwyn i’r aelodau ymarfer tynnu lluniau. Rydyn ni hefyd wedi rhoi cynnig ar ffotograffiaeth agos a ffotograffiaeth ar wyneb bwrdd.

Mae ein cystadlaethau misol a chwarterol yn ein hannog ni i fynd allan a thynnu lluniau yn rheolaidd.

 

Dydd Sadwrn 12 Awst 2023

Phil Hughes, Michelle Jones a Jan Pennell yn cyflwyno… Hwyl & Hiraeth

Bydd tri artist o Gwm Rhymni yn ymuno â’i gilydd dros yr haf gydag arddangosfa eclectig o waith seramig, printiau leino a ffotograffiaeth. Eu nod nhw gyda’r sioe hon, sy’n dechrau yn y Tŷ Weindio ar 12 Awst, yw ennyn y teimlad o berthyn i Gymru.

Mae’r tri wedi’u cysylltu ag oriel roedd Jan Pennell yn berchen arni ac yn ei gweithredu am sawl blwyddyn yng Nghaerffili. Fel rhywun oedd bob amser yn chwilio am artistiaid newydd a chyffrous, gwelodd Jan waith gan Phil a Michelle ar hap, ac fe wnaeth hi eu gwahodd nhw i fod yn artistiaid rheolaidd yn yr oriel. Fe wnaethon nhw hynny nes i Jan ymddeol yn 2021.

Phil Hughes

Mae Phil yn gweithio gyda phorslen ac yn mwynhau’r heriau mae’r deunydd heriol iawn hwn yn eu cynnig. Mae’n mwynhau archwilio technegau newydd, sy’n ychwanegu at gyffro a gwefr y broses greadigol. Ar gyfer ei waith diweddaraf, mae’n defnyddio porslen du a gwyn ac yn gwthio’r deunydd i’r eithaf, ac ar yr un pryd, mae’r porslen yn gwthio Phil i’r eithaf! Dechreuodd greu gwaith seramig yn gymharol hwyr yn ei fywyd. Roedd yn gweithio fel pennaeth celf mewn ysgol gyfun fawr, yn dysgu mewn colegau a phrifysgolion am 25 mlynedd ac yn cynnal dosbarthiadau mewn canolfannau addysg i oedolion. Fe wnaeth ymddeol ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, gan wneud y penderfyniad i ddilyn ei freuddwyd a chanlyn ei gariad at serameg. Yn 2013, fe sefydlodd ei stiwdio seramig ei hun. Daeth yn swyddog arddangosfeydd Crochenwyr De Cymru, gan drefnu arddangosfeydd seramig ledled Cymru a De-orllewin Lloegr, cyn mynd ymlaen i fod yn gadeirydd y grŵp. Serameg bellach yw ei angerdd ac mae bron yn swydd llawn amser.

Michelle Jones

Mae Michelle wedi bod yn wneuthurwr printiau ers blynyddoedd lawer, gan ddod o hyd i ysbrydoliaeth ym myd natur a’r tymhorau.  Mae patrymau sy’n cael eu creu trwy ddal golau a symudiad yn nodweddion allweddol o’i gwaith – o olion tonnau ar draeth i lwybrau anwedd o awyrennau. Fel arfer, mae ei phrintiau leino yn seiliedig ar stori ac maen nhw wedi’u gwneud o gefndiroedd lliw haniaethol a ffurfiau llinellol a llinol strwythuredig sydd, o’u cyfuno â’r papurau arlliwiedig a gweadog a wnaed â llaw, yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’r gwaith. Yn dilyn ei hymddeoliad yn ddiweddar, fe ymgymerodd â serameg, gan droi at Phil am gymorth a chyngor. Mae ei photiau troell hefyd wedi’u hysbrydoli gan natur a’r tymhorau ac yn ategu ei phrintiau leino yn berffaith. Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd Phil wedi bod yn athro celf ar Michelle yn yr ysgol gyfun yn ôl yn yr 1980au. Aeth Michelle ymlaen i raddio gyda gradd mewn Dylunio Graffeg ac mae’n bendant na fyddai wedi digwydd heb ysbrydoliaeth ac anogaeth Phil.

Jan Pennell

Fel cyn-berchennog Y Galeri yng Nghaerffili, cafodd Jan ei denu fwyfwy gan serameg, felly, pan ymddeolodd ddiwedd 2021, bachodd ar y cyfle i ddatblygu’r diddordeb newydd hwn. Mae cymorth a phrofiad toreithiog Phil yn amhrisiadwy a, heddiw, mae hi’n creu’r merched traddodiadol Cymreig seramig, ‘Bopa Bach a Beti Bach’; y cyfan wedi’u gwneud â llaw ac wedi’u paentio â llaw, a phob un yn unigryw. Mae gan y merched eu tudalen Facebook eu hunain, sy’n ennyn llawer o ddiddordeb gyda phostiadau o’u teithiau ledled Cymru a thu hwnt.

Dim ond ar ôl iddi raddio gyda gradd mewn Celf ac Estheteg a TAR mewn Addysg Ôl-orfodol yn 40 oed y dechreuodd gyrfa Jan yn y byd celf.  Manteisiodd ar y cyfle i newid, gan redeg orielau celf a dysgu celf i oedolion tan yn eithaf diweddar.  Yn ogystal â’i gwaith seramig, mae Jan hefyd yn tynnu lluniau o dirnodau Cymreig nodedig, gan drawsnewid y golygfeydd syfrdanol yn ddelweddau beiddgar a chyfoes.

Mae’r artistiaid yn credu ei bod hi’n dda rhannu ychydig o Gymreictod ac yn gobeithio bod eu gweithiau celf yn dod â gwên i’r wyneb ac yn dod â thipyn o hwyl a hiraeth i’ch cartrefi chi.

 

Dydd Sadwrn 30 Medi 2023

Hannah Newell yn cyflwyno… Forget Me Not

Mae’r arddangosfa hon yn archwilio’r defnydd o adar caneri yn y pyllau glo. Cafodd adar caneri eu defnyddio o ddiwedd y 1800au i ganfod carbon monocsid ac maen nhw wedi cael eu hanghofio gan fwyaf. Rwy’n eich gwahodd chi i deithio trwy fy arddangosfa, gan ddysgu a mwynhau fy nghelf am yr adar hyn.

Nawr i sôn ychydig amdanaf i: mae gen i arddangosfa yn Kenya y flwyddyn nesaf, ac mae peth o fy ngwaith yn teithio ledled Cymru ar hyn o bryd gydag elusen o’r enw Panel Cynghori Is-Sahara. Rwy’n mwynhau paentio acrylig ac yn defnyddio patrymau lliwgar i greu gwaith sy’n dod â fy mhlentyndod ym Malawi, Affrica, i’r cof. Yn ogystal â bod yn artist, rwy’n mwynhau rhedeg ac ymweld ag amgueddfeydd. Hoffwn i ddiolch i Amgueddfa’r Tŷ Weindio am ganiatáu i mi arddangos ac rwy’n llawn cyffro yn ei gylch.

 

Dydd Sadwrn 4 Tachwedd 2023

Art Bambw Gwyrdd

Karen Jones a Sue Tennet ydyn ni ac rydyn ni’n artistiaid sy’n peintio â brwsh mewn dull Tsieineaidd. Mae gennym ni ddiddordeb cyffredin yn athroniaeth a symlrwydd y pwnc ac wrth i ni ddilyn technegau Tsieineaidd, rydyn ni wedi datblygu ein harddulliau unigol ein hunain dros y blynyddoedd. Rydyn ni’n mwynhau’r dull rhydd hwn o beintio sy’n rhoi’r cyfle i fanteisio ar botensial artistig y cyfrwng; mae’n ddigymell ac yn fwy o gelfyddyd perfformio.

Rydyn ni’n aelodau gweithgar o Gymdeithas Paentio â Brwsh mewn dull Tsieineaidd, ac rydyn ni’n cyfarfod bob mis fel grŵp gydag artistiaid eraill i rannu syniadau, trafod a datblygu technegau.

Rydyn ni’n arddangos ein gwaith yn rheolaidd mewn nifer o leoliadau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac yng Ngwent, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhai sy’n edrych ar y paentiadau sy’n cael eu harddangos yn yr arddangosfa hon yn mwynhau ein celf.

Yn y calendr Tsieineaidd, 2023 yw blwyddyn y Gwningen, sy’n cynrychioli caredigrwydd a dewrder.


Am fanylion a chyfleoedd i arddangos yn y Tŷ Weindio, cysylltwch â ni.

Rhannwch y dudalen hon: