Wedi’u creu yn unol â drafft Cwricwlwm i Gymru 2022, mae ein gweithdai ar-lein yn rhoi cipolwg ar hanes unigryw de Cymru. Wedi’u cynllunio i gefnogi dysgu yn yr ysgol a dysgu o bell, mae gweithdai ar-lein y Tŷ Weindio yn crafu o dan wyneb storïau hanes, wrth gael llawer o hwyl ar hyd y ffordd!
Gwybodaeth Cofrestru
Cyflwynir pob gweithdy gan ein Swyddog Dysgu (QTS). Mae sesiynau ar gael yn y fformatau canlynol:
Gweithdy 50 munud – £50
Gweithdy anymarferol a gyflwynir ar-lein sy’n blaenoriaethu rhyngweithio. Bydd mynediad gweledol at ein casgliad trin, ffynonellau gwreiddiol a llawer o symud yn sicrhau bod y grŵp yn mwynhau’r gweithdy llawn hwyl, wrth lynu at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Gweithdy 75 munud – £75
Gweithdy ymarferol a gyflwynir ar-lein sy’n cynnwys cael benthyg ein gwrthrychau hanesyddol. Caiff blwch o nwyddau a ddewiswyd yn arbennig ar gyfer y gweithdy ei anfon i’ch man dysgu 72 awr cyn y gweithdy, a chaiff ei gasglu ar ôl cwblhau’r gweithdy. Caiff yr holl wrthrychau eu glanhau’n briodol a’u rhoi mewn cwarantin cyn ac ar ôl eu defnyddio, er mwyn creu profiad dysgu rhyngweithiol wrth flaenoriaethu diogelwch.
I archebu gweithdy, cysylltwch â:
Swyddog Dysgu ac Allgymorth
Y Ty Weindio,, Cross Street, Tredegar Newydd NP24 6EG
Ffôn: 01443 822 666
Ebost: quantf@caerphilly.gov.uk