01443 822666

Injan Weindio

Mae’r Tŷ Weindio wedi’i adeiladu ar hen safle Pwll Glo Elliot. Canolbwynt yr amgueddfa yw’r injan weindio Fictoraidd gwreiddiol, sy’n dyddio o 1891. Defnyddiwyd yr injan ryfeddol hon i weithredu’r cewyll a oedd yn cludo dynion a glo rhwng yr wyneb a’r pwll oddi tano.

Rydym yn cadw’r injan weindio yn y tŷ weindio gwreiddiol, y gallwch ei gyrraedd drwy atriwm y brif amgueddfa. Mae’r peiriant enfawr hwn yn rhoi cipolwg i chi ar sut brofiad oedd gweithio mewn pwll glo yn Ne Cymru, gan gynnwys olew’r injan a llwch glo. Bydd archwilio’r ystafell weindio yn rhoi darlun manwl i chi o hanes Pwll Glo Elliot a’i bwysigrwydd yn y gymuned leol.

Hanes Pwll Glo Elliot

Tarodd ffyniant glo’r 19eg ganrif Gwm Rhymni yn union fel y gwnaeth weddill Cymoedd De Cymru, ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd wedi trawsnewid pentrefan tawel Rhosyn Gwyn yn dref lofaol brysur Tredegar Newydd. Enwyd y dref ar ôl yr Arglwydd Tredegar, a oedd yn berchen ar y tir yr oedd wedi’i lleoli arno.

Un o’r “pyllau gwych” modern i’w sefydlu yng Nghwm Rhymni oedd Pwll Glo Elliot. Roedd y pwll yn eiddo i Gwmni Glo Powell Duffryn Steam Ltd a chafodd ei enwi ar ôl George Elliot, un o’r dynion a sefydlodd Powell Duffryn.

Roedd gan Bwll Glo Elliot 2 siafft. Roedd siafft y Gorllewin tua 402m o ddyfnder (1320 troedfedd) a dechreuodd y gwaith suddo’r siafft yn 1883, gan gymryd 23 mis. Roedd siafft y Dwyrain tua 484m o ddyfnder (1590 troedfedd) a dechreuodd y gwaith ei suddo yn 1888, gan gymryd 15 mis . Erbyn 1891, roedd yr injan weindio newydd yn Siafft y Dwyrain wedi dechrau codi glo.

Yn ystod ei anterth, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, cynhyrchai Pwll Glo Elliot dros filiwn o dunelli o lo y flwyddyn a chyflogai tua 2,800 o bobl. Dywedodd llawer o arbenigwyr ar y pryd fod ei lo o’r ansawdd gorau.

Roedd gwaith ac adeiladau arwyneb Pwll Glo Elliot yn cynnwys ystafelloedd lamp, storfeydd ffrwydrol, gweithdai, yr olchfa, y seidins rheilffordd ac mewn blynyddoedd diweddarach, ffreutur a baddonau. Islaw hyn roedd rhwydwaith cymhleth o dwneli a ffyrdd yn arwain at y pwll glo ac oddi yno.

Caeodd y pwll glo ym 1967. Dymchwelwyd yr adeiladau a gwerthwyd y peiriannau neu eu sgrapio.

Yn ffodus, goroesodd y Tŷ Weindio Dwyreiniol a’i injan stêm Thornewill a Warham. Mae’r tŷ weindio rhestredig Gradd II* a’r injan weindio Fictoraidd yn ffurfio canolbwynt amgueddfa y Tŷ Weindio.

Mae ein Gwirfoddolwyr ymroddedig a brwdfrydig yn cynnal ac yn rhedeg yr injan ar gyfer aelodau o’r cyhoedd ar ddiwrnodau penodol drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr injan yn rhedeg am 12pm am 10-15 munud.

 

Amserlen 2022:

Dydd Sadwrn 25 Chwefror

Dydd Sadwrn 26 Mawrth

Dydd Sadwrn 30 Ebrill

Dydd Sadwrn 28 Mai

Dydd Sadwrn 25 Mehefin

Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf

Dydd Sadwrn 27 Awst

Dydd Sadwrn 24 Medi

Dydd Sadwrn 29 Hydref

Dydd Sadwrn 26 Tachwedd


Delweddau hanesyddol o'r Injan Weindio a Phwll Glo Elliott

Rhannwch y dudalen hon: