Ewch i archwilio a darganfod!
Dewch i ddarganfod hanes cudd De Cymru yn Oriel y Gorllewin, lle byddwch yn gweld arddangosfa barhaol o sêr ein casgliad. O’r Rhufeiniaid i Chwyldroeon, Cestyll I Gafaliriaid, ac o’r Oes Haearn i’r Gwaith Haearn, mae llawer i’w weld, ei wneud a’i archwilio!
Mae Oriel y Gorllewin yn adrodd hanes De Cymru drwy hanesion pobl gyffredin. Rydym yn annog ymwelwyr i ymgysylltu â hanes drwy gyffwrdd, arogli a chwarae â’n harddangosfeydd rhyngweithiol. Mae’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd yn yr oriel hon yn rhai yr hoffem i bawb eu rhannu, felly mae croeso i chi ddod â’r teulu cyfan i fwynhau archwilio hanes yr ardal.
Rhai sylwadau gan ein hymwelwyr: