01443 822666

Llogi Ystafell

Y Tŷ Weindio yw’r lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau, dosbarthiadau ac achlysuron cymdeithasol.

Rydym yn cynnal digwyddiadau yn rheolaidd yn ein hystafell fawr, breifat, sydd â system aerdymheru sy’n cynnig golygfeydd prydferth o’r dyffryn. O bartïon plant i ddosbarthiadau creadigol a ffitrwydd wythnosol, mae’r gofod addasadwy hwn yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau a digwyddiadau lle gall pobl ddod ynghyd.

Os ydych yn trefnu digwyddiadau anffurfiol, mae ein siop goffi ac orielau yn cynnig lleoliad hamddenol, sy’n berffaith ar gyfer boreau coffi a grwpiau sgwrsio.

Mae gan ein safle gyfleusterau toiled a newid babanod ac mae’n cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Ac yn goron ar y cyfan, rydym yn cynnig ein hystafelloedd am brisiau cystadleuol iawn! Cysylltwch â ni am fwy o fanylion, gan gynnwys costau ystafell a lluniaeth.

Mae pob ardal gyhoeddus yn destun trefn lanhau well a darperir gwasanaethau yn unol â chyfyngiadau a chanllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Nodwch fod y capasiti’n dibynnu ar y canllawiau presennol. Hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a’ch sicrhau y bydd ein staff bob amser yn gwneud yn siŵr bod eich digwyddiad yn digwydd mewn modd mor ddidrafferth â phosibl, wrth weithio i’ch cadw’n ddiogel.

Rhannwch y dudalen hon: