01443 822666

Siop goffi a siop anrhegion

Siop Goffi

Mae Siop Goffi’r Tŷ Weindio yn cynnig diodydd poeth ac oer amrywiol a byrbrydau melys. O’n ‘te hyfryd’ (dyma ddisgrifiad cwsmer…) a choffi ffres, i ysgytwad llaeth ac amrywiaeth eang o ddiodydd meddal adnabyddus.

Beth am fwynhau ein cacennau cri a’n Bara Brith blasus? Neu efallai gacen de wedi’i thostio a’r sleisen fffrwythau a chnau siocled gan yr Handmade Cake Co?

I gadw pawb yn hapus, gallai’r plant fwynhau dewis eang o gwcis a myffins sydd ar gael; ynghyd â danteithion eraill. Mae’r dewis o gacennau sydd ar gael yn y Siop Goffi yn newid yn rheolaidd, felly cofiwch ddod yn ôl a’u blasu i gyd!

Te prynhawn

Ar gyfer achlysuron arbennig, beth am brofi ein te prynhawn neu’n bocsys brecwast i’w bwyta i mewn neu fel pryd ar glud? Mae te prynhawn yn £15.50 y pen ac mae’r bocsys brecwast yn £18, sy’n addas i ddau berson. Rhaid archebu’r danteithion blasus hyn 24 awr ymlaen llaw, er mwyn rhoi amser i ni eu gwneud yn arbennig iawn i chi.

Pecynnau bwyd

Gallwn hefyd gynnig lle i’n hymwelwyr fwynhau eu pecynnau bwyd eu hunain. Ar gyfer grwpiau mawr, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni ymlaen llaw i sicrhau y bydd lle ar eich cyfer.

Mae ein siop goffi yn adnodd cymunedol gwych ar gyfer boreau coffi a grwpiau sgwrsio rheolaidd. Cysylltwch â ni am fanylion o ran y lle sydd ar gael, gofynion cadw pellter cymdeithasol a gostyngiadau lluniaeth ar gyfer grwpiau mawr.

Siop Anrhegion

Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein siop anrhegion. O’n casgliad arbenigol o gyhoeddiadau hanesyddol lleol i gofroddion lleol, rydych yn sicr o ddod o hyd i’r anrheg berffaith i gofio am eich ymweliad. Mae ein stoc yn apelio at bob oedran ac yn cynnwys eitemau traddodiadol o Gymru, eitemau ynghylch Pwll Glo Elliot, cardiau a chynnyrch a gynhyrchir gan artistiaid lleol, teganau ac anrhegion i blant bach a chyffeithiau, jamiau ac alcohol a gynhyrchir yn lleol ar gyfer oedolion.

Treuliwch ychydig o amser yn archwilio ein casgliad o lyfrau. Mae gan ein staff lawer o wybodaeth am hanes lleol a byddant yn gallu dod o hyd i’r cyhoeddiad perffaith i chi, p’un a yw eich diddordeb mewn llyfrau ffotograffig, academaidd neu ddiddordeb cyffredinol ar hanes Caerffili a’r cyffiniau.

Mae ein prisiau’n rhai cystadleuol ac mae cynllun agored i’r siop, sy’n ofod diogel rhag COVID-19. Mae croeso i chi grwydro o amgylch y siop anrhegion yn ystod eich ymweliad a bydd ein staff wrth law i’ch helpu i ddewis eich anrhegion perffaith.

Rhannwch y dudalen hon: