01443 822666

Casgliad yr Amgueddfa

Mae’r Tŷ Weindio yn amgueddfa achrededig sy’n cynnwys casgliad o dros 14,000 o wrthrychau. Rydym yn casglu ac yn cadw gwrthrychau sydd â chysylltiadau cryf â hanes Bwrdeistref Sirol Caerffili; y lleoedd a’r bobl. Mae’r casgliad yn cynnwys gwrthrychau, dogfennau a ffotograffau sy’n ymwneud â’r hanes cymdeithasol a domestig, yn ogystal â’r hanes diwydiannol. Pan agorodd y Tŷ Weindio yn 2008 roedd 1,500 o eitemau yn rhan o’r catalog ond diolch i roddion hael gan bobl Bwrdeistref Sirol Caerffili a thu hwnt, mae’r casgliad wedi parhau i dyfu.

Rydym yn ffodus o allu arddangos ychydig o’r casgliad hwn i’r cyhoedd, y gallwch ei weld yn Oriel y Gorllewin neu yn un o’n Harddangosfeydd Allgymorth mewn llyfrgelloedd lleol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydym yn diweddaru’r arddangosion hyn yn rheolaidd, er mwyn cyflwyno hanes De Cymru i gymunedau ledled y fwrdeistref.

Cedwir y rhan fwyaf o’n casgliad y tu ôl i ddrysau caeedig, lle gallwn ei gadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ond mae ein holl wrthrychau ar gael i’r cyhoedd at ddibenion ymchwil ac addysg. Felly, os ydych chi’n gwneud hanes teuluol, prosiect academaidd neu addysgol, cysylltwch â ni i gael mynediad at wrthrychau nad ydynt yn cael eu harddangos i’r cyhoedd.

Neu gallwch ddefnyddio ein catalog ar-lein isod i archwilio rhywfaint o’n casgliad.

I gael rhagor o wybodaeth am roi rhodd i’r amgueddfa neu i gael manylion am sut rydym yn gofalu am ein casgliad, cysylltwch â ni.

Rhannwch y dudalen hon: