01443 822666

Gweithdy Teuluoedd Rhad Ac Am Ddim

24 May, 2023

Mae’r Rhufeiniaid yn dod!

Ymunwch â ni Dydd Mercher 31 Mai wrth i ni archwilio bywyd y Rhufeiniad yng Nghymru a’r bobl y gwnaethant eu concro: y drwg, y cas a’r cwbl ffiaidd! Gan ddefnyddio gwisgoedd, chwarae rôl a chrefftau, byddwn yn darganfod sut oedd y Rhufeiniad yn delio â’r ymladdwyr ffyrnicaf a bryntaf ym Mhrydain yr oes haearn a beth y gadawon ar eu holau.

Mae’r gweithdy RHAD AC AM DDIM hwn yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant dan 12 oed, ond mae croeso i bawb ymuno. Bydd sesiynau yn rhedeg 10:30-2 a 2-3:30. Dim angen archebu ond mae lleoedd yn gyfyngedig a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Mae’n rhaid i bob plentyn fod gydag oedolyn.

Rhannwch y dudalen hon: