01443 822666

Addurno i Ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines

23 May, 2022

I ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines 2022, byddwn yn coroni Caerffili gyda baneri sy’n addas ar gyfer brenhines! Coronwch eich cartref gyda bynting wedi’u gwneud â llaw gan ddefnyddio’r templedi hyn y gellir eu lawr lwytho am ddim. Yn syml, argraffwch neu copïwch y dyluniadau hyn ac arddangoswch eich darnau gorffenedig yn eich ffenestri wrth i Gaerffili ddathlu penwythnos Jiwbilî Platinwm y Frenhines 2-5 Mehefin 2022.

1. Jubilee bunting worksheet Art Clwb

2. Bunting template Art Clwb

3. template shapes for bunting – Art Clwb

Neu dewch i un o’n sesiynau crefftau galw mewn, am ddim a helpu i greu baneri i addurno ein cymunedau a’ch cartrefi eich hun.

Byddwn yn cynnal y sesiynau canlynol:

Dydd Mawrth 31 Mai 12:30-2:30 yn Faenor Llancaiach Fawr 

Dydd Mercher 1af Mehefin 12:30-2:30 yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Dydd Iau 2 Mehefin 12:30-2:30 yn Tŷ Weindio 

Gyda gweithgareddau i’r teulu cyfan, gobeithio gallwch ymuno â ni i greu, addurno a dathlu’r Jiwbilî Platinwm!

Peidiwch âg anghofio i rhannu lluniau o’ch bynting ar cyfryngau cymdeithasol a tag @WindingH @ZibaCreativeUK #createdecoratecelebrate #CaerphillyJubilee #Jubilee2022 #queensjubilee

Rhannwch y dudalen hon: